Lleoliad:
Hybrid - Ystafell Bwyllgora 4 Tŷ Hywel a fideogynadledda drwy Zoom
Dyddiad: Dydd Mercher, 25 Hydref 2023
Amser:
09.30 -
12.32
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/13497
------
Categori |
Enwau |
Aelodau o’r Senedd: |
Jayne Bryant AS (Cadeirydd) James Evans AS Heledd Fychan AS Laura Anne Jones AS Ken Skates AS |
Tystion: |
Sharon Davies, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC) Catherine Davies, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru Gaynor Davies, Cymdeithas Cyfarwyddwyr Addysg Cymru Liz Jones, Cymdeithas Cyfarwyddwyr Addysg Cymru Catherine Falcus, Association of School and College Leaders (ASCL) Mary van den Heuvel, National Education Union (NEU) Mike O'Neill, Undeb Addysg Cenedlaethol (NEU) Cymru Ioan Rhys Jones, UCAC Urtha Felda, Cymdeithas Genedlaethol yr Ysgolfeistri ac Undeb yr Athrawesau (NASUWT) |
Staff y Pwyllgor: |
Naomi Stocks (Clerc) Sarah Bartlett (Dirprwy Glerc) Sian Hughes (Ymchwilydd) |
1 Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau
1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i gyfarfod y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg.
1.2 Cafwyd
ymddiheuriadau gan Buffy Williams AS. Ni chafwyd dirprwy ar ei
rhan.
2 A yw plant a phobl ifanc anabl yn cael mynediad cyfartal at addysg a gofal plant? – Sesiwn dystiolaeth 7
2.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a Chymdeithas Cyfarwyddwyr Addysg Cymru.
2.2 Cytunodd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru i ymchwilio ymhellach i ba mor gyfredol yw strategaethau hygyrchedd awdurdodau lleol.
3 A yw plant a phobl ifanc anabl yn cael mynediad cyfartal at addysg a gofal plant? – Sesiwn dystiolaeth 8
3.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan y Gymdeithas Arweinwyr Ysgolion a Cholegau.
3.2 Cytunodd y Gymdeithas Arweinwyr Ysgolion a Cholegau i wirio a oedd ganddynt unrhyw enghreifftiau o ddysgwyr ag anghenion ychwanegol sydd wedi profi bwlio yn yr ysgol, ac os felly, i'w rhannu â'r Pwyllgor.
4 A yw plant a phobl ifanc anabl yn cael mynediad cyfartal at addysg a gofal plant? – Sesiwn dystiolaeth 9
4.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan UCAC, NASUWT, NEU a NEU.
4.2 Datganodd Mary van den Heuvel o NEU ei bod yn Aelod o Bwyllgor Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol Cymru.
4.3 Cytunodd NEU i ddarparu ei adnoddau i Aelodau ar gynhwysiant anabledd.
5 Papurau i'w nodi
5.1 Cafodd y
papurau eu nodi.
6 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod hwn.
6.1 Derbyniwyd y
cynnig.
7 A yw plant a phobl ifanc anabl yn cael mynediad cyfartal at addysg a gofal plant? – Trafod y dystiolaeth
7.1 Trafododd Pwyllgor y dystiolaeth a glywyd yn ystod y sesiwn flaenorol.